Description
Beth wnawn ni pan ymddengys nad yw rhai darnau o'r Beibl yn gwneud synnwyr? Mae Darllen y Beibl yn Ddeallus Gyda'n Gilydd yn gyflwyniad chwe sesiwn i ddehongliad Beiblaidd. Bydd y sesiynau hyn yn eich galluogi i archwilio ystyr, cyd-destun gwreiddiol y testun a'r neges y gallwn ei defnyddio heddiw. Gyda rhagair gan Dr Paula Gooder, yr awdur a darlithydd mewn Astudiaethau Beiblaidd, ac wedi’i gyfieithu i'r Gymraeg gan Casi Jones.
Mae pob sesiwn yn cynnwys:
Nodiadau cefndirol
Gweithgareddau i grwpiau a myfyrdodau i unigolion
Astudiaeth Feiblaidd
Cwestiynau trafodaeth grŵp
Nodweddion allweddol
Canllaw astudiaeth Feiblaidd chwe sesiwn, yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau cartref
Adnodd grŵp bach sy'n hawdd ei ddefnyddio
Adnodd newydd ar gyfer eglwysi sydd am annog hyder wrth ddarllen y Beibl
Rhagair gan y diwinydd a'r awdur, Paula Gooder
Yn archwilio rhai o'r ffyrdd allweddol i ddarllen y Beibl yn ddeallus